Mae’r Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Cynhyrchwyr Cerddoriaeth Menywod yn fenter i gefnogi menywod a chynhyrchwyr cerddoriaeth anneuaidd a helpu i unioni'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn eu maes.
Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad â phartneriaid mewn gwledydd o bob cwr o'r byd, mae’r rhaglen yn helpu i oresgyn rhwystrau yn y diwydiant cerddoriaeth, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth, trafodaeth, rhwydweithio a chydweithio.
Mae The Global Network for Female-Identifying Music Producers ar hyn o bryd yn bartneriaeth gyda National Arts Centre Canada, Sounds Australia, Music Estonia, MTA Productions (Sweden), (México), Elen Elis (Eisteddfod Genedlaethol Cymru), a chysylltydd â chynhyrchydd Belén Aramburú (Ariannin).
Cafodd grwp o gynhyrchwyr o Gymru y cyfle i gymryd rhan yn y rhwydwaith hon gan wario amser yng Nghanada yn 2023.
Oherwydd y cyswllt uniongyrchol rhwng diwylliant a chelfyddyd, cafodd yr artistiaid y cyfle i ystyried yr hyn yr oedd y gwahanol ddiwylliannau o fewn y grŵp yn ei gyfranu i wahanol arddulliau o gerddoriaeth.
Gwelodd yr artistisid Cymraeg bod eu cyfraniad hwy fel Cymry Cymraeg yn werthfawr fel rhan o gydestyn y diwylliannau eraill. Roedd hyn o fudd mawr i’r cynhyrchwyr o Gymru.
Cafodd cynhyrchwyr byd-eang hefyd flas ar gerddoriaeth amrywiol iawn o Gymru gydag electropop Ani Glass, roc dramatig Heledd Watkins a cherddoriaeth gwerin amgen Lleuwen Steffan, yn ogystal a gweld sut oedd y dair yn mynd ati i gynhyrchu eu cerddoriaeth eu hunain a cherddoriaeth i eraill. Roedd yr amrywiaeth eang yma o ddiddordeb i’r cynhyrchwyr rhyngwladol o fewn y rhwydwaith, yn enwedig wrth ystyried caneuon Cymraeg a’r modd mae ein hartistiaid yn defnyddio’r iaith yng nghyd-destun cerddoriaeth gyfoes.
Yn dilyn y daith, dywedodd Heledd Watkins:
“Wedi myfyrio am fy amser yng Nghanada, dwi’n gweld taw’r hyn yr wyf fi wedi ei ddysgu yw pa mor bwysig yw hi i gerddor weithio y tu allan i’w man cysurus arferol. Trwy wneud hyn yng Nghanada dwi bellach wedi creu rhestr o’r sgiliau yr hoffen i eu datblygu dros y blynyddoedd nesa, a dwi nawr yn gwerthfawrogi yr hyn dwi’n eu wbod yn barod, sy’n rhoi hyder i mi gario mlaen a dal ati. Mae gwybod bod y cyfle yma am godi eto y flwyddyn nesa yn rhoi gôl cadarn i mi weithio tuag ato. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn ôl yng nghwmni grŵp mor ysbrydoledig o fenywod.”