“The Global Network for Women Music Producers began as an idea of a first step at addressing gender inequality in music production. We wanted to bring women together to start new conversations, new networks, and provide new opportunities for learning and collaborating for women in the studio. The program began with producers in Canada, Sweden, Estonia, Argentina, and Australia. The addition of the Welsh producers has added a new layer of cultural learning and opportunity for all of the women in the program that has included collaborations in the Welsh language at the National Eisteddfod of Wales and projects that are influenced by traditional Welsh songs and culture. We are very excited to bring the annual in person event to Wales in 2024.”
Heather Gibbson, Cynhyrchydd Gweithredol, Cerddoriaeth Boblogaidd ac Amrywiol, National Arts Centre Canada
Mae dod â’r rhwydwaith ynghyd yn flynyddol yn agwedd bwysig ar y rhaglen, ac ym mis Awst 2024, bydd y grŵp yn cyfarfod yng Nghymru. O 7-16 Awst, byddant yn cydweithio mewn stiwdios, yn cymryd rhan mewn trafodaethau a digwyddiadau rhwydweithio, yn cael cyfleoedd hollbwysig i arddangos, ac yn dysgu mwy am ddiwylliannau ac ieithoedd ei gilydd.
Fel rhan o’r daith sydd wedi’i churadu’n arbennig o amgylch Cymru, bydd ffocws arbennig ar Gymru, gan gynnwys trochi yn y diwylliant a’r iaith ar ei gorau trwy ddiwrnod llawn yng Ngŵyl Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd.
Bydd pum cynhyrchydd cerddoriaeth o Gymru hefyd yn ymuno â’r cynhyrchwyr rhyngwladol ar draws y daith; Eädyth, Ani Glass, Heledd Watkins, Lleuwen Steffan a Branwen Munn.
Mae’r prosiect rhyngwladol hwn yn wirioneddol werthfawr i bawb, yn enwedig wrth frwydro dros gydraddoldeb, a phontio’r bwlch rhwng prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yr Eisteddfod (Maes B) a Clwb Ifor Bach, a phrosiectau eraill o statws rhyngwladol.
Mae'r daith lawn yn cynnwys ymweliadau â:
• Stiwdio Gorwelion BBC Cymru
• Eisteddfod Genedlaethol Cymru
• Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
• Co Co & Cwtsh
• Stiwdio Mwnci
• Llyfrgell Genedlaethol Cymru
• Portmeirion
• Nant Gwrtheyrn
• Stiwdio Sain
• Stiwdio ROC2
Rheolir Taith Cymru gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â National Arts Centre Canada, ac mae wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.