Cyflwynir y sesiynau rhwydweithio gan yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cymru Greadigol a BBC Horizons I Gorwelion.
Maent yn gyfle i weithwyr proffesiynol y diwydiant (yn enwedig menywod) ar draws ystod o gelfyddydau a chyfryngau i gwrdd â chynhyrchwyr cerddoriaeth y Rhwydwaith Byd-eang, yn ogystal â chynnal sgyrsiau diddorol a phwysig ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Ceir profiad hefyd o weithiau artistiaid o diwylliannau eraill yn ogystal â rhannu’r gorau o Gymru gyda’r ymwelwyr.
Cysylltwch â Rheolwr Prosiect i gofrestru eich ddiddordeb i fynychu’r sesiynau rhwydweithio gyda’r Global Network for Women Music Producers.
*Sylwch fod capasiti yn gyfyngedig yn y sesiynau hyn a byddwn yn dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
10:00 Gwener 9 Awst | Sesiwn Rhwydweithio gyda Rachel K Collier a mwy | BBC Horizons I Gorwelion, Sgwar Canolog Caerdydd.
15:00 Sadwrn 10 Awst | Sesiwn Rhwydweithio a Sgwrs Panel | Ystafell uwchben y Lido ar Faes yr Eisteddfod, Parc Ynysangharad Pontypridd | *Rhaid cael tocyn maes er mwyn mynychu.
18:00 Mawrth 13 Awst | Sesiwn Rhwydweithio a Pherfformiadau gan Pedair a mwy | Y Neuadd, Portmeirion [tu allan yn y Colofnres Bryste os yn braf).