Arwyddion Eisteddfod ar y Maes
Beth yw dalgylch yr Eisteddfod?

Mae Sir Benfro i gyd yn y dalgylch, yn ogystal â rhannau o dde Ceredigion a Sir Gâr. Defnyddiwch y map uchod i weld lle mae ffiniau'r dalgylch.

Sut alla i ymuno â'r tîm?

Eich eisteddfod chi yw hon, ac rydyn ni angen eich help chi i greu prosiect a gwyl lwyddiannus. Gadewch i ni wybod beth sy'n mynd â'ch bryd drwy gwblhau'r ffurflen ar waelod y dudalen.

Sut mae'r Pwyllgor Gwaith yn cael ei ethol?

Mae enwebiadau ar gyfer aelodau'r Pwyllgor Gwaith ar agor tan 19 Hydref. Cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen am ragor o wybodaeth.

Rydyn ni'n chwilio am:

  • Gadeirydd i'r Pwyllgor Gwaith;
  • Gadeirydd i'r Gronfa Leol;
  • Is-gadeirydd Strategol;
  • Is-gadeirydd Diwylliannol;
  • Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.

Rydyn ni hefyd yn chwilio am hwyluswyr ar gyfer ein pwyllgorau testunau i arwain ar y broses o ddewis testunau ar gyfer ein cystadlaethau. Beth am ymuno â'r tîm?

Bydd pawb sydd wedi cofrestru ar fas data 2026 yn gallu cymryd rhan yn y bleidlais ar-lein yn dilyn y dyddiad cau. Byddwn yn cyhoeddi enwau'r swyddogion ddechrau Tachwedd, gyda chyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith yn cychwyn yn ystod Tachwedd.

Pryd fydd y rhaglen gystadlaethau ar gael?

Bydd y rhestr testunau'n cael ei gyhoeddi yn ystod Gwyl y Cyhoeddi a gynhelir yng ngwanwyn 2025. Bydd y Pwyllgor Gwaith a'r Orsedd yn cytuno ar ddyddiad i'w gyhoeddi'n fuan. Bydd y rhestr testunau ar gael i'w brynu ar-lein ac o siopau ar hyd a lled Cymru dros fisoedd yr haf, a bydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn yr hydref.

Bydd ein porth cystadlaethau'n cael ei lansio ym mis Ionawr 2026.

Pryd fyddwch chi'n creu'r rhestr testunau?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cystadlaethau, yna beth am ymuno â'r tîm sy'n creu'r rhestr testunau? Bydd y gwaith yma'n cychwyn ar 16 Hydref, gyda sesiwn wyneb-yn-wyneb am 18:00 ar 22 Hydref yn Ysgol Eglwyswrw, a bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn mis Ionawr.

Rydyn ni'n chwilio am unigolion sydd â diddordeb mewn celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, dawns, gwerin, gwyddoniaeth a thechnoleg, llefaru, llenyddiaeth, dysgu Cymraeg (Maes D) a theatr i ymuno â'r tîm.

Diddordeb? Llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen am ragor o wybodaeth am y sesiynau testunau.

Ga i helpu gyda'r rhaglen artistig ar gyfer yr wythnos?

Wrth gwrs!  Mae angen tîm mawr o bobl creadigol a llawn syniadau i'n helpu ni i greu'r rhaglen artistig ar gyfer yr Eisteddfod ei hun.  

Bydd y gwaith yma'n cychwyn tua mis Chwefror 2025 a bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal pob chwarter tan fod y rhaglen artistig wedi'i chwblhau ym mis Ionawr 2026.  Dewch â'ch syniadau a themau i'r cyfarfodydd!

Sut alla i helpu gyda'r gwaith codi arian a gweithgareddau lleol?

Rydyn ni'n chwilio am bobl ym mhob pentref a thref ar draws yr ardal i helpu gyda threfnu digwyddiadau cymunedol a chodi arian. Bydd gwaith y Gronfa Leol yn cychwyn ym mis Tachwedd, wrth i i rannu'r ardal yn wardiau. Llenwch y ffurflen ar waelod y dudalen i fod ar ein bas data i dderbyn gwybodaeth am y cyfarfod cyntaf.

Byddwn yn creu timau lleol ar draws y dalgylch, a byddwn yn cynnig cymorth a chefnogaeth ar hyd y daith, gyda chyfarfodydd i rannu gwybodaeth a chynghori ein gilydd o dro i dro. Chi sy'n adnabod eich cymuned, ac rydyn ni angen eich help chi i gyrraedd pawb.

Mae tîm canolog yr Eisteddfod wastad ar gael i helpu gyda'r gwaith.

Pryd fyddwch chi'n harddu'r ardal?

Byddwn yn chwilio am bobl i arwain ymgyrch harddu yn ystod y cyfnod hyd at yr Eisteddfod (o fis Mai 2026 ymlaen) er mwyn dangos y croeso cynnes i'r Eisteddfod yn yr ardal.  Dewch i sicrhau fod Cymru gyfan yn gweld y croeso i'r Eisteddfod a'n hymwelwyr.

Byddwn hefyd yn cynnal ymgyrch harddu ar raddfa llawer llai ar gyfer y Cyhoeddi yn y gwanwyn.

Sut ga i wirfoddoli?

Rydyn ni'n chwilio am dîm o wirfoddolwyr drwy gydol y prosiect - o arwain y pwyllgor gwaith i gynnal a threfnu gweithgareddau lleol. Byddwn hefyd yn recriwtio cannoedd o wirfoddolwyr ar gyfer wythnos yr Eisteddfod i'n helpu ni ar hyd a lled y Maes. Bydd ein ffurflen wirfoddoli ar gael o fis Mawrth 2026 ymlaen.

Sut alla i gyflwyno gwobr?

Mae cyflwyno gwobr yn ffordd hawdd o'n helpu ni i gyrraedd targed y Gronfa Leol. Bydd ein gwobrau ar gael i'w cyflwyno ar-lein o fis Tachwedd 2024 ymlaen. Cofiwch ymuno â'n cylchlythyr ar gyfer y newyddion diweddaraf a'r union ddyddiad pan fydd ein gwobrau ar gael.

Sut ga i noddi'r Eisteddfod?

Mae nifer fawr o becynnau nawdd ar gael, gyda phrisiau'n rhedeg o £3,500 i £60,000. Cysylltwch â gwyb@eisteddfod.cymru am agor o wybodaeth. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda phob noddwr er mwyn datblygu pecynnau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian a'r gwelededd gorau i chi a'ch busnes.

Oes amserlen ar gael ar gyfer y prosiect?

Bydd amserlen yn cael ei chyhoeddi ar-lein ym mis Tachwedd 2024 gyda phob dyddiad pwysig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.