Rydyn ni’n chwilio am reolwr cyfathrebu profiadol i ymuno â ni mewn rôl newydd sbon, sy’n arwain ar elfennau cyfathrebu lleol a chenedlaethol.
Bydd gennych gysylltiadau da gyda’r wasg a’r cyfryngau ar draws Cymru a thu hwnt, a sgiliau ysgrifenedig ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda’r gallu i ddrafftio pob math o gopi gan gynnwys ceisiadau grant a phecynnau nawdd.
Byddwch hefyd yn awyddus i weithio gyda gwirfoddolwyr yn ein cymunedau, yn datblygu ymgyrchoedd ac yn hwyluso'r gwaith codi ymwybyddiaeth a chodi arian ar lawr gwlad, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth i’n pwyllgorau lleol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Disgrifiad swydd: Rheolwr Cyfathrebu
Lawrlwytho
Ffurflen gais (PDF)
Lawrlwytho
Ffurflen gais (Word)
Lawrlwytho