Mae'r Eisteddfod yn dod i ardal Y Garreg Las ym mis Awst 2026 ac rydyn ni angen eich help chi gyda'r gwaith codi arian a chodi ymwybyddiaeth ar draws y dalgylch.
Mae'r ardal yn cynnwys Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr, ac wedi'i rhannu'n un-ar-ddeg o ddalgylchoedd clir, sef:
Aberdaugleddau, Abergwaun, Aberteifi, Dinbych y Pysgod, Emlyn, Hendy-gwyn ar Daf, Hwlffordd, Llandysul, Penfro, Preseli, a Thyddewi.
Mae'r dalgylchoedd i gyd yn cynnwys pentrefi, wardiau a threfi, ac rydyn ni'n gobeithio y daw'r gymuned ynghyd ym mhob ardal i drefnu gweithgareddau a chydweithio er mwyn cyrraedd targed ein Cronfa Leol sy'n £400,000.
Rydyn ni'n chwilio am dîm o gydlynwyr i arwain y gwaith ar draws yr ardal, ynghyd â llu o wirfoddolwyr lleol sy'n awyddus i fod yn rhan o'r gwaith trefnu. Llenwch y ffurflen hon, os gwelwch yn dda i ymuno â ni yn y gwaith dros y misoedd nesaf.
Diolch i chi am eich cefnogaeth ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio dros y cyfnod nesaf yn lleol.
Byddwn yn anfon ein cylchlythyr atoch yn fisol gyda'r newyddion diweddaraf am Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, a gallwch ddewis i ddad-danysgrifio o'r rhestr bostio ar unrhyw adeg.