Dyma gyfle i enwebu unigolyn sy'n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol am waith tawel a diflino yn eu cymuned.
Mae cyfle i rannu esiamplau o’r hyn sydd yn gwneud yr enwebai yn deilwng o’r wobr arbennig hon ar y ffurflen isod.
Bydd y panel yn dethol enillydd o blith y ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau. Cofiwch gyflwyno darlun llawn o rinweddau’r enwebai gan mai ar sail cryfder y cais y gwneir y penderfyniad i wobrwyo.
“Â graen, gwireddaist y gred -
Cymwynas yw cymuned.”
Rhys Powys
Dyddiad cau: 1 Ebrill 2025
Noder: Os nad yw’r cais yn llwyddiannus yn y flwyddyn gyntaf, bydd enw’r enwebai'n parhau o dan ystyriaeth am gyfnod o ddwy flynedd ychwanegol nes y bydd yn cael ei hepgor o’r rhestr. Gellir ail gyflwyno cais wedi bwlch o flwyddyn.