Young girl with long blonde hair hanging out of a red wooden caravan in a field with a cloudy sky

Cliciwch ar y blwch pinc i archebu eich safle gwersylla yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Safle gwersylla:

  • Wythnos - £200
  • Dydd Mercher i fore Sul - £120
  • Dydd Gwener a Dydd Sadwrn - £60

**Newydd eleni: Hwyrnos

Methu ffeindio rhywle i aros, ddim yn berchen ar garafan a theimlo'n rhy hen i wersylla ym Maes B? Gad i ni gyflwyno Hwyrnos, maes pebyll newydd i'r rhai sydd ddim am weld y parti'n pylu. 

Yn cynnig profiad newydd o’ch hoff ŵyl, bydd Hwyrnos wedi’i leoli rhwng Maes B a’r Maes Carafanau, a drws nesaf i faes yr Eisteddfod.  Gellir prynu tocyn wythnos, hanner wythnos a phenwythnos olaf, gyda’r opsiwn o gynnwys tocynnau cyfnod i’r Maes neu gigs Maes B fel rhan o’r pecyn. 

Tocynnau bargen gynnar hefyd ar gael.