Mae cannoedd o bobl o bob oed ac o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn rhan o’r tîm, gyda nifer fawr yn dychwelyd atom dro ar ôl tro.
Oes gennych chi ychydig oriau i'w sbario'n ystod wythnos yr Eisteddfod yn Wrecsam? Os felly beth am wirfoddoli i fod yn rhan o'r tîm eleni?
Wrth wirfoddoli yn yr Eisteddfod fe fyddwch chi'n un o'r criw fydd yn croesawu ymwelwyr i'r ŵyl.
Mae gennym ni nifer o leoliadau ar hyd a lled y Maes ac rydyn ni angen criw o wirfoddolwyr cyfeillgar i weithio ym mhob un ohonyn nhw. Mae manylion y lleoliadau i gyd ar y ffurflen gais.
Beth am ymuno â’r tîm eleni? Rydyn ni’n cynnig:
- Mynediad am ddim i’r Maes bob diwrnod rydych chi’n gwirfoddoli
- Pryd o fwyd am ddim os ydych chi’n gweithio dwy shifft mewn diwrnod
- Dewis o leoliadau a phrofiadau – gadewch i ni wybod lle yr hoffech chi fod ac fe wnawn ni ein gorau i sicrhau eich bod chi wedi eich gosod yno
- Rhaglen hyfforddiant newydd sbon, sy’n cynnwys sesiwn wyneb-yn-wyneb cyn yr Eisteddfod a modiwlau ar-lein
- Tystysgrif gwirfoddoli ar y diwedd a gwahoddiad i ddigwyddiad cymdeithasol yn ardal yr Eisteddfod yn yr hydref
Eisiau gwybod mwy cyn penderfynu? Cliciwch ar y disgrifiad swydd ar waelod y dudalen.
Barod i gofrestru? Cliciwch ar y bocs pinc ac ewch amdani!
Byddwch yn derbyn e-bost gyda rhagor o fanylion am sut brofiad yw gwirfoddoli o fewn ychydig wythnosau ac yna'n derbyn gwybodaeth lawn yn nes at yr Eisteddfod ei hun.
Yma i Helpu
O dan 18 ond eisiau ymuno â’r tîm? Mae ein cynllun Yma i Helpu yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 16-17 oed. Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys croesawu ymwelwyr i’r Maes, helpu gydag ymholiadau cyffredinol a chefnogi gwaith y tîm stiwardio a’r tîm canolog. Rhagor o wybodaeth ar gael cyn bo hir.