Rhun ap Iorwerth
Mae Rhun ap Iorwerth yn fwyaf adnabyddus fel Aelod Senedd dros Ynys Môn, ac er 2023 fel arweinydd Plaid Cymru. Cyn hynny, bu’n ddarlledwr ac yn un o newyddiadurwyr amlycaf Cymru yn y ddwy iaith tan i’r awydd i wasanaethu ei fro a phobl Cymru ei arwain i fyd gwleidyddiaeth. Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn weithgar yn ei gymuned, yn llywodraethwr ysgolion, yn arweinydd ar ddigwyddiadau a chyngherddau lleol, ac yn gefnogwr i amrywiol fudiadau yn cynnwys cyfnod fel noddwr i’r elusen Awyr Las. Bu hefyd, tan yn ddiweddar, yn hyfforddwr ieuenctid yng Nghlwb Rygbi Llangefni.

 

David Aykroyd
Mae pob cymuned yn elwa o unigolion sy’n cyfrannu at wella bywyd bob dydd, ac mae David Aykroyd yn llysgennad arbennig dros dref Y Bala. Gyda’i frawd, Nigel, mae’n rhedeg cwmni dillad nos, dillad dydd a dillad nofio hynod lwyddiannus, sy’n gyflogwr pwysig yng nghefn gwlad Cymru. Mae cyfraniad y brodyr wedi gwella’r celfyddydau, nifer o fentrau a chwaraeon lleol, gyda’r gefnogaeth sydd wedi gyrru CPD Y Bala i Uwch Gynghrair Cymru a hwyluso’u cyflawniadau Ewropeaidd, ond un enghraifft o gyfraniad y ddau i’w cymuned leol.

 

Nigel Aykroyd
Gyda’i frawd, David, mae cyfraniad Nigel Aykroyd i dref Y Bala wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd, nid yn unig trwy eu cwmni llwyddiannus sy’n cyflogi nifer fawr o bobl leol, ond hefyd trwy gefnogi’r gymuned.  Ers diwedd y 1990au mae’u cwmni’n darparu meithrinfa Gymraeg yn y dref, sydd erbyn hyn, a chyda chefnogaeth y brodyr, wedi datblygu fel Canolfan Deuluol Y Bala sy’n cynnig gwasanaeth gwerthfawr i’r gymuned. Mae’r ddau frawd hefyd yn noddi’r celfyddydau, chwaraeon lleol a mentrau lleol, gan gyfrannu at wytnwch a pharhad ein hiaith yn ardal y Bala.

 

Glesni Llwyd Carter
Mae Glesni Llwyd Carter, Wrecsam, yn cyfrannu’n sylweddol i iaith a diwylliant Cymru. O ran ei galwedigaeth, mae’n rheoli holl waith teulu llysoedd Gogledd Cymru a Dyfed Powys, ac wedi gwella mynediad siaradwyr Cymraeg at gyfiawnder mewn adegau o argyfwng teuluol, a hyfforddi ynadon i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, gan ddylanwadu’n gadarnhaol ar y maes proffesiynol a’r gymuned ehangach. Yn ogystal, bu Glesni’n allweddol wrth gefnogi ac annog nifer o brosiectau diwylliannol yn lleol, ac mae ganddi ymroddiad di-ben draw i’r Gymraeg yn ardal Wrecsam.

 

Bill Davies
Yn wreiddiol o Borthmadog, mae Bill Davies, Caerdydd, wedi cefnogi eisteddfodau lleol a chenedlaethol ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd. Bu’n ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Bro Llandegfan am dros 20 mlynedd, yn gadeirydd Eisteddfod Môn, 2008, ac erbyn hyn mae’n aelod ac yn ymddiriedolwr o Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd, gan weithredu fel yr is-gadeirydd. Mae hefyd yn is-gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Bu’n gweithio ym maes adnoddau dynol drwy gydol ei yrfa, a hynny ar draws Cymru, gwasanaethodd ar nifer o gyrff a sefydliadau yma, gan gynnwys Awdurdod S4C a Thribiwnlysoedd Cyflogaeth Cymru, ac mae’n parhau i weithredu fel cadeirydd ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru.

 

Gwenllian Lansdown Davies
Dr Gwenllian Lansdown Davies, Llanerfyl, yw prif weithredwr Mudiad Meithrin er+ 2014, ac mae’r sefydliad wedi tyfu a datblygu’n sylweddol o dan ei harweiniad a’i gweledigaeth, gan gyfrannu’n helaeth at nod Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae’i gwaith yn ehangu a datblygu hygyrchedd, argaeledd a fforddiadwyedd darpariaeth gofal plant a gwaith chwarae cyfrwng Cymraeg yn hanfodol o safbwynt ffyniant ein plant a dyfodol ein hiaith. Mae Gwenllian hefyd yn gwirfoddoli yn ei chylch meithrin lleol yn Nyffryn Banw, yn aelod o fwrdd Medr: y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac yn ymddiriedolwr gyda Chronfa’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

 

Geraint Evans
Yn gyfreithiwr wrth ei alwedigaeth, mae Geraint Evans, Y Barri, yn hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob maes y mae’n rhan ohono, boed hynny’n fyd addysg, busnes neu ddiwylliant.  Bu’n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Bro Morgannwg am ddeng mlynedd gyntaf yr ysgol, ac er 2011 mae’n gadeirydd Corfforaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, un o golegau mwyaf y DU gyda thros 30,000 o fyfyrwyr. Mae wedi rhedeg sawl busnes llwyddiannus ac wedi gwirfoddoli yn y sectorau busnes ac addysg ar draws Caerdydd a’r Fro, yn ogystal ag yn genedlaethol. Yn gyfathrebwr naturiol, mae’n hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg yn Y Barri a Bro Morgannwg ers dros hanner canrif.

 

Llinos Griffin
‘Does neb wedi gwneud mwy i gefnogi cymunedau Croesor, Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth na Llinos Griffin. Mae hi wedi cynhyrchu degau o ffilmiau cymunedol i hyrwyddo busnesau a sefydliadau lleol, ynghyd â phrosiect ‘Byw.Bod’ a ddaeth â mentrau annibynnol lleol ynghyd i gynnig profiadau a gwasanaethau i ddenu ymwelwyr i’r ardal a’u cyflwyno i’r Gymraeg. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am greu Hwb Croesor, sydd bellach yn grŵp o dros 30 o wirfoddolwyr, ac mae hi hefyd yn athrawes Gymraeg uchel ei pharch sy’n ysbrydoli ei dysgwyr gan sicrhau eu bod yn credu fod ganddynt gyfraniad gwerthfawr i’w wneud i’r Gymraeg a’n diwylliant.

 

Rhian Griffiths
Mae Rhian Griffiths, Caerdydd, wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r byd tennis yng Nghymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Yn wreiddiol o ardal Wrecsam, mae Rhian wedi cynrychioli ei gwlad ar bob lefel, o’r tîm o dan 14 oed hyd at y tîm dros 60 oed. Er 2022, mae wedi ennill 11 teitl senglau a 12 teitl dyblau mewn twrnameintiau ITF. Yn ogystal â chynrychioli Cymru, mae hi hefyd yn rhan o garfan dros 60 y DU. Yn ogystal â byd tennis, mae Rhian hefyd wedi cyfrannu i fyd addysg, gan ddysgu mewn ysgolion yn Hong Kong, Llanfair Caereinion, ac ysgolion Plasmawr a Glantaf yng Nghaerdydd.

 

Jane Harries
Mae Jane Harries, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymgyrchydd dros heddwch a chyfiawnder, ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o adeiladu Cymru fel cenedl heddwch. Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod ac mae wedi cefnogi pobl ifanc i ddatblygu neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd.  Bu hefyd yn ysgrifennydd grŵp Menter Academi Heddwch Cymru. Fel aelod o’r Crynwyr, mae’n ffyddiog bod heddwch a chymodi’n bosibl yng Nghymru a’r tu hwnt, ac wedi cyfrannu’n sylweddol at adeiladu cymdeithas well. Mae’n dal i fod yn bositif yn wyneb trais ac anghyfiawnder, ac yn credu bod heddwch yn cychwyn ynom ni’n hunain. 

 

Maxine Hughes
Mae Maxine Hughes yn enw ac yn wyneb cyfarwydd i nifer fawr erbyn hyn, nid yn unig am ei gwaith newyddiadurol, ond hefyd am ei rôl fel ‘cyfieithydd swyddogol’ perchnogion clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Yn wreiddiol o Gonwy, mae’n byw a gweithio yn Washington DC, yn dilyn cyfnod gyda’r BBC a sianel newyddion Saesneg rhyngwladol yn Nhwrci. Mae’n ceisio cefnogi newyddiaduraeth Gymraeg cymaint â phosib ac wedi cynnal sesiynau ar newyddiaduraeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

 

Tomos Hughes
Mae Tomos Hughes, Cerrig-y-Drudion, wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w gymuned leol drwy ei waith gwirfoddol a’i gyflogaeth gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Dros y blynyddoedd, darparodd Tomos wasanaethau ymatebwyr cyntaf hanfodol, ac arweiniodd ei ymroddiad at osod dros 850 o ddiffibrilwyr ar draws y gogledd. Mae Tomos yn gweithio gydag Achub Bywyd Cymru, y rhaglen genedlaethol i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon drwy hyrwyddo CPR a deffibrilio o fewn cymunedau. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant i gymunedau lleol, gan ymestyn y gwasanaeth achub bywyd ar draws y rhanbarth, a gwneir hyn yn aml yn y Gymraeg. Mae’i ymrwymiad diwyro a’i wasanaeth arbennig nid yn unig wedi achub bywydau ond hefyd wedi cryfhau gwytnwch a pharodrwydd y gymuned mewn argyfyngau.

 

Dylan Jones
Tan ei ymddeoliad diweddar, roedd Dylan Jones, Dinbych, yn newyddiadurwr amlwg gyda’r BBC yng Nghymru.  Yn ystod ei yrfa mae wedi cyflwyno rhaglenni megis ‘Taro Naw’, ‘Pawb a’i Farn’, ‘Taro’r Post’, ‘Post Cynta’, ‘Dros Frecwast Sadwrn’ a’r ‘Post Prynhawn’, ac mae’n cyflwyno’r rhaglen bêl-droed ‘Ar y Marc’ yn ddi-dor er 1992. Bu’n sylwebu ar gemau pêl-droed o 1986, ac ar ôl sylwebu ar drychineb Hillsborough, cafodd ei wahodd i fod yn ohebydd newyddion yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan weithio ar rai o straeon mwyaf y deng mlynedd ar hugain diwethaf yng Nghymru a thros y byd.

 

Dylan Rhys Jones
Mae Dylan Rhys Jones, Abergele, yn credu bod defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol fel y gyfraith yn eithriadol bwysig, ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol i’r gyfraith, academia, a’r cyfryngau wrth hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymraeg. Mae’n bosibl ei fod yn fwyaf adnabyddus fel cyfreithiwr amddiffyn i Peter Howard Moore, y llofrudd cyfresol. Ysbrydolodd yr achos dwys a heriol hwn ei lyfr, ‘The Man in Black’, sy’n cyflwyno ei bersbectif unigryw fel cyfreithiwr Moore. Mae Dylan yn eiriolwr dros ddiwylliant, iaith ac addysg Cymru. Bu’n hyrwyddo’r iaith yn gyson o fewn ei waith cyfreithiol ac addysgol, a hynny’n lleol ac yn genedlaethol.

 

Dylan Wyn Jones
I deulu’r Eisteddfod, ‘Dylan Carafáns’ yw Dylan Wyn Jones, Yr Wyddgrug, a hynny am iddo arwain ar drefnu maes carafanau’r Eisteddfod am flynyddoedd lawer.  Bu hefyd yn gyfrifol am stiwardiaid yr ŵyl ers bron i 20 mlynedd, gan feithrin perthynas arbennig gyda channoedd os nad miloedd o wirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Mae’n wirfoddolwr brwd ei hun, ac yn cefnogi a hybu nifer fawr o fudiadau Cymraeg lleol. Yn fathemategydd ac yn arbenigwr technoleg gwybodaeth wrth ei waith, treuliodd ddau ddegawd yn gweithio ar draws Ewrop cyn dychwelyd i Gymru er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i’w blant.

 

Keris Jones
Fyddai’r Eisteddfod ddim yn Eisteddfod heb weld Keris Jones, Llangollen, wrthi’n brysur yn gwirfoddoli a stiwardio, a hynny ers hanner can mlynedd.  Mae hi’n rhan enfawr o brofiad ein cystadleuwyr a’i gofal annwyl ohonynt wrth iddynt baratoi am eu rhagbrawf yn rhan hollbwysig o ethos yr ŵyl. Mae hi hefyd wedi gwirfoddoli yn yr Urdd ac Eisteddfod Llangollen am flynyddoedd lawer. Yn ogystal, mae Keris yn gymwynasgar a gweithgar iawn yn ei bro, ac yn angerddol dros bopeth Cymreig, ein hiaith a’n diwylliant.

 

Lili Mai Jones
Mae Lili Mai Jones yn rhan o’r chwyldro pêl-droed menywod yng Nghymru ac yn arbennig yn Wrecsam. Hi yw wyneb a llais Cymraeg y chwyldro hwnnw. Yn chwarae i Academi Clwb Wrecsam ers yn 12 oed, chwaraeodd am ddau dymor i glwb Everton cyn ailymuno â Wrecsam ac mae wedi ennill nifer o gapiau rhyngwladol dros ei gwlad ar lefel dan 15 a dan 17 oed. Mae’n llais cyfarwydd ar raglenni radio a theledu, yn trafod dylanwad cynyddol pêl-droed ar iechyd corfforol a meddyliol merched ifanc, ond y tu hwnt i hynny, mae hi hefyd yn bresenoldeb Cymraeg ar raglenni sy’n cael eu darlledu dros y byd, gan roi sylw i Wrecsam a’r Gymraeg.

 

Nia Wyn Jones
Mae’n anodd mesur y gwahaniaeth a wnaeth Nia Wyn Jones, Llangefni, i gadarnhau statws y proffesiwn cyfieithu drwy ei gwaith fel rheolwr systemau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ac yn sgil hynny gyfrannu at normaleiddio’r iaith mewn cynifer o feysydd. Hi oedd yn gyfrifol am redeg system arholi’r Gymdeithas, trefnu lleoliadau’r arholiadau a’r byrddau arholi, a’r gweithdai, gan redeg a datblygu gwefan y Gymdeithas am flynyddoedd lawer. Mae Nia  yn weinyddwraig heb ei hail, ac mae’n bleser gan yr Orsedd ei hanrhydeddu eleni.

 

Richard Francis Jones
Yn wreiddiol o bentref Clocaenog, bu Richard (Dic) Jones, Yr Wyddgrug, yn blismon gyda Heddlu Gogledd Cymru o 1958 tan 1991, gan orffen ei yrfa fel Arolygwr yn ardal Yr Wyddgrug. Wedi ymddeol taflodd ei hun i waith gwirfoddol ac er 2007 mae’n wyneb cyfarwydd i filoedd o Eisteddfodwyr fel un o dîm y Prif Stiward yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda chyfrifoldeb dros yr ochr drafnidiaeth. Mae’n weithgar iawn yn lleol, yn un o sefydlwyr a chyn-lywydd Cymdeithas Wil Bryan, yn gyn-gadeirydd ac yn llywydd Clwb Rygbi’r Wyddgrug ac yn is-gadeirydd undeb rygbi gogledd Cymru. Mae’n cynrychioli canghennau Cymru ar Bwyllgor Cenedlaethol Cymru a Lloegr o Heddlu sydd wedi ymddeol. 

 

Dewi Llwyd
Yn newyddiadurwr a darlledwr sy’n llais cyfarwydd i’r mwyafrif ohonom yng Nghymru, mae Dewi Llwyd, Bangor, wedi adrodd ar rai o straeon newyddion mwyaf Cymru a’r byd yn y Gymraeg ers bron i hanner canrif. Bu’n wyneb rhaglenni etholiadol S4C, a bu’n cyflwyno prif raglen newyddion y sianel ynghyd â’r rhaglen drafod ‘Pawb a’i Farn’ am flynyddoedd.  Mae’i raglenni ar Radio Cymru wedi cynnwys ‘Dewi Llwyd ar fore Sul’, ‘Hawl i Holi’, ‘Post Prynhawn’ a ‘Dros Ginio’, ac mae’n parhau i gyflwyno ‘Dros Ginio’ yn wythnosol. Mae’i gyfraniad i fyd newyddiaduraeth Gymraeg, a thrwy hynny at ein hiaith a’n diwylliant yn enfawr.

 

Lyndon Miles
Mae Dr Lyndon Miles wedi gwasanaethu cymunedau’r gogledd orllewin am 34 mlynedd. Yn wreiddiol o Ddowlais, cafodd ei addysg feddygol yn Sheffield cyn symud i Fangor lle y bu’n gweithio fel meddyg teulu. Yn frwdfrydig i wella gwasanaethau i bobl mewn ardaloedd difreintiedig, bu’n arwain y gymuned i sefydlu Canolfan Byw’n Iach, Maesgeirchen. Cyflawnodd amryw o rolau arweinyddiaeth ym maes iechyd, yn lleol a chenedlaethol. Bu’n gadeirydd Cydffederasiwn GIG Cymru ac, ar ôl ymddeol, bu’n gadeirydd Hosbis Dewi Sant am dros wyth mlynedd. Wedi dysgu Cymraeg, mae’n angerddol dros ein hiaith ac yn gallu ymdrin â chleifion a chynnal trafodaethau meddygol yn Gymraeg.

 

Gethin Rhys
Mae Gethin Rhys, Caerdydd, wedi gwasanaethu Cymru a’i chrefydd, ei gwleidyddiaeth a’i chymdeithas gyda’i graffter meddwl a chyda’i ymroddiad i weld cymuned gyfiawn ddi-ragfarn yn ein gwlad. Yn ei swydd fel swyddog polisi Cytûn mae wedi cyflwyno tystiolaeth ac awgrymiadau i bwyllgorau amrywiol y Llywodraeth a’r enwadau, i eglwysi ac unigolion er mwyn gwella polisïau a pherthnasau. Yn ystod y pandemig bu’n allweddol yn trafod canllawiau gyda’r Llywodraeth ac yn eu cyflwyno i eglwysi a chymunedau. Bu Gethin hefyd yn gwasanaethu ar Gyngor Rhyng Ffydd Cymru, corff hanfodol i hybu goddefgarwch a dealltwriaeth rhwng cymunedau yng Nghymru. Mae’n ddiwinydd craff, yn wleidydd amyneddgar ond penderfynol ac yn gymdeithasegwr tyner a deallus.

 

Enlli Môn Thomas
Ers penodiad cyntaf r Athro Enlli Thomas, Abergwyngregyn, fel Ymchwilydd Ôl-Ddoethur yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, mae’r Gymraeg wedi bod yn ganolog i’w gyrfa fel darlithydd ac ymchwilydd. Mae ei chyfraniad i’r Gymraeg o fewn y sefydliad, ac yn genedlaethol, wedi bod yn sylweddol. Mae hefyd wedi ymgymryd â’i huchelgais o sicrhau mynediad at addysg Gymraeg ym Mangor ac o fewn pynciau seicoleg ac addysg yn ehangach. Mae ei brwdfrydedd at addysg Gymraeg, gan sicrhau fod darlithwyr ac adnoddau ar gael, wedi bod yn ganolbwynt i’w gweledigaeth. Mae hi’n parhau drwy osod strategaeth y Gymraeg ar lefel reoli’r Brifysgol a thrwy annog myfyrwyr PhD i ymgymryd ag ymchwil am addysg Gymraeg.

 

Tony Thomas
Mae Tony Thomas yn un o staff technegol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gweithio yn y stordy yn Llanybydder ers dros 40 mlynedd. Mae gan Tony ddiddordeb go iawn, a balchder yn yr Eisteddfod ac eisiau i’r profiad ar y Maes fod yn gofiadwy i’r ymwelydd. Y syniadau mwyaf trawiadol ganddo yw’r gair ‘Eisteddfod’ mewn llythrennau mawr coch a’r bwa croeso lliwgar ger y fynedfa. Mae’n gyfrifol am regalia a gwisgoedd yr Orsedd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cludo a’u cadw’n ddiogel, ac mae urddas a llwyddiant seremonïau’r Orsedd yn ddibynnol iawn ar gyfraniad Tony yn paratoi ymlaen llaw yn y cefndir a’i flynyddoedd o brofiad.

 

Clare Vaughan
Yn wreiddiol o Abermorddu ger Wrecsam, lle y’i magwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg, mae Clare Vaughan wedi ymgartrefu yng Nghwm Hyfryd ym Mhatagonia. Bu’n gweithio fel athrawes Gymraeg mewn ysgolion yn ardal Wrecsam cyn cael ei phenodi’n athrawes ym Mhatagonia.  Mae wedi gwasanaethu’n ddi-dor dros y Gymraeg a’r diwylliant yn y Wladfa, fel cydlynydd addysgol prosiect yr iaith ac aelod gwerthfawr o’r gymdeithas am yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae’n agor ei chartref i groesawu ymwelwyr a gwirfoddolwyr yn gyson, yn cefnogi digwyddiadau lleol, yn weithgar gyda’r eisteddfodau, fel beirniad a hyfforddwr, ac yn cymryd rhan ei hun. Mae’n aelod o gorau a phartïon llefaru ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i hyrwyddo’r diwylliant a’r iaith o ddydd i ddydd. 

 

Simon Ward
Yr Athro Simon Ward, Caerdydd, yw cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n arbenigwr ym maes darganfod cyffuriau trosiadol. Mae wedi arwain timau prosiect amlddisgyblaeth a grwpiau cemeg meddyginiaethol drwy brosiectau darganfod cyffuriau hyd at yr astudiaethau clinigol, gan gyflwyno moleciwlau lluosog i’w datblygu’n glinigol ar gyfer amrywiaeth o glefydau. Mae ganddo brofiad eang o ddarganfod cyffuriau mewn cwmnïau fferyllol mawr, biodechnoleg ac academia a phrofiad arbenigol o ddarganfod a datblygu cyffuriau ar gyfer cleifion â salwch niwrolegol a seiciatrig ac yn erbyn canser. Bu’n flaenllaw yn hybu pwysigrwydd trafod gwyddoniaeth yn y Gymraeg, yn enwedig drwy annog myfyrwyr i ddilyn astudiaethau pellach a chyhoeddi yn y Gymraeg.

 

Gareth Victor Williams
Mae Gareth Victor Williams, Yr Wyddgrug, wedi chwarae rhan allweddol ym maes ieuenctid ac addysg yng ngogledd ddwyrain Cymru am flynyddoedd. Bu’n gweithio fel athro anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn Ninbych, lle y sefydlodd a datblygodd addysg cyfrwng Cymraeg, cyn gweithio fel athro ymgynghorol plant â nam ar eu clyw.  Bu hefyd yn gweithio yn y Ganolfan i Hwyrddyfodiaid yn Sir Ddinbych, gan greu pob math o adnoddau ar gyfer cyrsiau hyfforddiant mewn swydd. Mae’n olygydd y papur bro lleol, yn ymwneud â phob math o weithgareddau Cymraeg a diwylliannol yn ei ardal, ac yn rhan allweddol o bwyllgor yr Ŵyl Ban Geltaidd.

 

Menna Williams
Mae Menna Williams, Llangernyw, wedi rhoi o’i hamser yn wirfoddol i hyfforddi cenedlaethau o blant a ieuenctid am dros 50 mlynedd yn ei bro. Mae’n parhau i hyfforddi llu o ieuenctid yr ardal i berfformio ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Mae’n un o sylfaenwyr cangen Llangernyw o Ferched y Wawr, ac wedi bod yn Llywydd y gangen deirgwaith dros y blynyddoedd.  Bu’n gwirfoddoli ar ran y mudiad, gan hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr Ysgol Feithrin. Mae’n cyfrannu’n fisol i’r papur bro ‘Y Gadlas’ ers blynyddoedd lawer, ac mae’i chyfraniad i’w bro yn amhrisiadwy, yn ogystal â’i chefnogaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant – heb sôn am ei chyfraniad i’w chapel, i Gymorth Cristnogol a Chôr Cymysg Dyffryn Conwy.  Fe’i hanrhydeddwyd â Thlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Maldwyn 2024.