1v3
Tŷ Gwerin

Perfformiad bywiog gan un o brif artistiaid y sin werin sy'n mynd yn ôl at ei gwreiddiau gyda threfniannau cain o ganeuon ac alawon gwerin Cymraeg, gydag ychydig o flas jazz

Mae Cass Meurig yn adnabyddus am chwarae'r ffidil a'r crwth, offeryn eiconig Cymreig, ar lwyfannau rhyngwladol a thrwy Gymru.

Ar ôl iddi berfformio a recordio gyda’r bandiau gwerin Fernhill a Pigyn Clust, rhyddhaodd albwm unigol ‘Crwth’, dau albwm ‘Deuawd’ ac ‘Oes i Oes’ gyda’r gitarydd Nial Cain, a dau albwm o'i chaneuon ei hun, 'Taith' ac 'Rwy'n Credu'.

Yn cyfeilio iddi yn y Tŷ Gwerin, mae ei meibion Gwilym ar y gitâr a Gruff ar y trwmped a'r ukelele

Youtube