Cymdeithasau

Sgwrs sy'n defnyddio casgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, un o dri chasgliad treftadaeth genedlaethol Cymru, i archwilio sut mae syniadau am dreftadaeth Cymru wedi’u datblygu, gan gynnwys beth yw treftadaeth, sut y dylid ei gwarchod ac i bwy mae'n perthyn

Un o gasgliadau cenedlaethol Cymru yw Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol.

Rheolir gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, un o sefydliadau treftadaeth hynaf Cymru, yn ychwanegol i wasanaethu fel archif i’r Comisiwn, y mae’n gwasanaethu fel ystorfa i’r sefydliadau dros y sector ei gyd, megis Cadw, yr Ymddiriedolaeth(au) Archaeolegol, yr Arolwg Ordnans, a llawer o sefydliadau archeolegol, pensaernïol, a threftadol eraill.

O ganlyniad, mae’r casgliadau'n cofnodi nid yn unig hanes 120,000 safle ledled Cymru, ond hefyd hanes y sector treftadaeth ei hun.

Bydd y sgwrs hon yn defnyddio casgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol i archwilio sut y newidiodd a datblygodd syniadau am dreftadaeth Cymru dros yr ugeinfed ganrif hyd heddiw, gan gynnwys beth sy’n gyfystyr â threftadaeth, sut a chan pwy y dylai treftadaeth gael ei gadw a’i warchod, ac i bwy y mae’n perthyn