Tŷ Gwerin
Cerddoriaeth gartrefol sy'n gyfuniad o’r hen a’r newydd ac yn plethu’r traddodiadol gyda’r gwreiddiol
Ffurfiwyd Hen Fegin yn 2015, ac ers hynny maen nhw wedi bod yn adlonni cynulleidfaoedd ar draws Cymru a thu hwnt gyda’u sain werinol unigryw o Faldwyn.
Aelodau’r band yw Roy Griffiths (llais a gitâr), Jac Gittins (llais a mandolin), Bryn Davies (llais ac acordion), Idris Morris Jones (llais a ffidil), Cadi Glwys Davies (telyn deires) ac Alun Hart (bas dwbl).
Cyhoeddwyd albwm Hen Fegin ‘Hwyl i Ti 'Ngwas’ yn 2019 a’u sengl ‘Fflam y Llan’ yn 2023 ar label Recordiau Maldwyn