Ers rhyddhau ei sengl gyntaf 'Blerr' yn 2022, mae Tara Bandito wedi torri llwybr unigryw a chreu gofod lle mae’r Gymraeg, Saesneg a Sansgrit yn eistedd ochr yn ochr â’r sitâr, y delyn a synths; mae pob perfformiad byw ganddi'n cael ei drin fel SIOE
Daeth ei halbwm cyntaf yn 2023 â diwedd ar bennod bersonol o alaru wedi colli ei thad, El Bandito, y reslwr eiconig wnaeth deithio’r byd gyda Tara o’r foment y cafodd hi ei geni.
Mae uchafbwyntiau wedi cynnwys chwarae gŵyl LUCfest, Taiwan a'r Dyn Gwyrdd gyda'i band, cyrraedd rhestr fer artistiaid gorau y DJ Bethan Elfyn, artist yr wythnos y DJ Huw Stephens a rhestr fer artist y flwyddyn "God is in the TV Zine" 2024.
Mae ei sain, fel ei stori, yn llawn troeon annisgwyl. O hyfforddi fel athrawes ioga yn India, i berfformio gyda Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon mewn gwyliau enfawr ar draws y byd, mae pob dylanwad yn gadael ei ôl ar ei cherddoriaeth.
Mae Tara’n parhau i ddatblygu fel artist sy’n ffynnu ar wirionedd, argyhoeddiad a’r rhyddid i wneud pethau fel y mynno