Logo Talent Mewn Tafarn
Caffi Maes B

Darlleniad cyntaf o ddwy ddrama gomedi mewn datblygiad sef 'GGGOC' a 'Parti Plu Mrs T To Be', gan Caryl Burke a Mari Elen, Elliw Dafydd a Naomi Seren

Sefydlwyd prosiect 'Trafferth Mewn Tafarn' ar y cyd rhwng Yr Egin, yr Eisteddfod Genedlaethol a phedwar tafarn cymunedol sef Menter y Plu, Llanystumdwy; Tafarn y Vale of Aeron, Dyffryn Aeron; Tafarn Ty’n Llan, Llandwrog a’r Fic, Llithfaen er mwyn datblygu perfformwyr a chynulleidfa cymunedol i nosweithiau comedi Cymraeg o bob math.

Rhai o sêr y prosiect, sef Caryl Burke a Mari Elen, Elliw Dafydd a Naomi Seren, sydd wedi mynd ati i ysgrifennu y ddwy ddrama fydd yn cael darlleniad cyhoeddus o’r gwaith mewn datblygiad am y tro cyntaf yn ystod y sesiwn yma.

Dramâu comedi byrion wedi eu cyfyngu i ddau actor ar gyfer eu perfformio mewn tafarn ydyn nhw

Facebook