Tŷ Gwerin

Noson lawen anarferol iawn yng nghwmni'r ddau frawd, Geraint a Hywel Løvgreen, a Dawnswyr Delyn gyda'r gynulleidfa mewn hetiau bwced yn chwarae bingo wrth wrando ar straeon pêl-droed a mwynhau dawnsio gwerin gwyllt!

Bydd cerddoriaeth werin yn gefndir i'r bingo a bydd llyfrau bingo yn cael eu dosbarthu ar y noson. Felly, dewch draw i'r Tŷ Gwerin i chwarae bingo i gyfeiliant hanesion pêl-droed, gydag ambell ddawns a cherddoriaeth werin wyllt i gyd-fynd gyda'r rhifau bingo.

Syniad hollol boncyrs, ond hon fydd y noson orau gewch chi yn y 'Steddfod. Bydd hon yn hit gyda’r gynulleidfa - a bydd 'na wobrau go iawn i’r enillwyr! Os oes gennych chi het fwced neu fonet, dewch â nhw!