Tŷ Gwerin
Dwy chwaer o Sir Drefaldwyn sy'n perfformio cymysgedd o faledi twymgalon ac alawon cynhyrfus gan gydganu'n reddfol mewn harmoni
Mae cerddoriaeth werin yn eu gwaed gyda'u tad yn rhan o'r band gwerin Cymreig adnabyddus Plethyn. Ers cyrraedd rownd olaf Brwydr y Bandiau gwerin yn yr Eisteddfod y llynedd maen nhw wedi chwarae gigs ar hyd a lled Cymru, gan berfformio caneuon gwreiddiol ochr yn ochr â threfniannau newydd o ganeuon gwerin traddodiadol