Elinor Bennett sy'n talu teyrnged i un o'i harwyr, John Parry, gan gyflwyno trefniannau o alawon o'i gasgliadau a rhai o'i weithiau gwreiddiol, gydag ambell delynor arall yn ymuno yn y sesiwn
Drwy ganu ei gerddoriaeth fe fyddan nhw'n cadw'r stori amdano'n fyw, bron i 250 o flynyddoedd ers ei farwolaeth.
Er bod John Parry Rhiwabon (1710-1782) yn ddall er ei enedigaeth, caiff ei adnabod fel telynor mwyaf athrylithgar a nodedig gwledydd Prydain.
Ef oedd "tad" y llinach o hen delynorion Cymreig a ganai'r Delyn Deires ac yn 1742 cyhoeddodd y casgliad cyntaf erioed o alawon a cheinciau telyn Cymru. Fel telynor domestig i deulu cyfoethog Syr Watcyn Williams-Wynne, Wynnstay, daeth i gysylltiad ag artistiaid a cherddorion pwysicaf ei gyfnod a gwyddom iddo greu argraff ddofn ar Handel pan glywodd ef yn canu'r delyn.
Er mai yn Nefyn, Llŷn y'i ganed, ei waith a'i gysylltiad â theulu Wynnstay ac ardal Wrecsam a alluogodd iddo dyfu i fod yn un o delynorion pwysicaf yr 18fed ganrif