Caffi Maes B
Set gan y band pync roc o Gaernarfon a Môn sy'n benderfynol o wneud argraff ar y sin roc Gymraeg
Cychwynnodd y band yn 2018 fel rhan o raglen ‘Marathon Roc’ Galeri, Caernarfon, a chyfansoddi'u sengl gyntaf 'Sgen Ti Awydd?' efo Osian Williams (Candelas).
Ar ôl gigio (a bod yn sownd mewn locdown) am gwpl o flynyddoedd, rhyddhawyd y sengl yn swyddogol yn 2022 wrth i’r band ymuno efo INOIS cyn rhyddhau eu EP cyntaf 'Nodiadau ar Gariad a Gwleidyddiaeth' yn haf 2023