Ciwb
Llwyfan y Maes

Mae Ciwb, sef Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams, yn rhoi eu stamp eu hunain ar glasuron Cymraeg adnabyddus

Ar ôl i'r pedwar cerddor gyhoeddi cyfyrs o gerddoriaeth gyfarwydd ar y we yn 2020 daeth cynnig gan raglen Lŵp i recordio cyfyr o unrhyw gân Gymraeg ar gyfer Dydd Miwsig Cymru. Recordiwyd Smo Fi Ishe Mynd gyda Malan fel artist gwadd, ac yn dilyn yr ymateb a gafwyd, dyma benderfynu ei rhyddhau, a dod at ei gilydd yn y cnawd am y tro cyntaf i weithio ar fwy…

Rhyddhawyd albwm o ganeuon o'r 60au-90au ar eu newydd wedd fis Gorffennaf 2021, gydag artist gwadd gwahanol i bob cân - gan ddefnyddio artistiaid mwyaf blaengar y sin gerddoriaeth Gymraeg. Yna, yn eu tro, cafwyd 4 sengl, gan gynnwys yr un ddiweddaraf - Diwedd y Gân, hefo Elidyr Glyn. Mwy i ddod yn 2025

Instagram Facebook