Encore
Penllanw dau brosiect arbennig yn dathlu dylanwad cerddoriaeth gyda chriw cymunedol Ysbrydoli Byd (Cwm Taf People First) a Canfod y Gân (Canolfan Gerdd William Mathias)
Daeth Ysbrydoli Byd i berfformio yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd fel penllanw i un o brosiectau cymunedol yr Eisteddfod. Ar ôl mwynhau perfformio yn y Gymraeg am y tro cyntaf ac ymddangos ar lwyfan Encore, braf oedd eu gwahodd yn ôl eleni, gyda chyfres o ganeuon a pherfformiad newydd sbon yma yn Wrecsam.
Mae Canfod y Gân yn brosiect gan Ganolfan Gerdd William Mathias mewn partneriaeth gyda Thîm Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd, ac sydd wedi'i ariannu gan y Steve Morgan Foundation. Cynhelir sesiynau mewn tri lleoliad; Y Felinheli, Pwllheli a Harlech