Elfed Saunders Jones
Tŷ Gwerin

Dau air: hen bryd. Dau air arall: 'Cofiwch Roswell'. Pum gair, coma, a thri gair arall: darlleniad byw yn y Steddfod, gyda band llawn. Oes angen dweud mwy? Oes, debyg iawn. Am y tro cyntaf erioed, dyma gyfle i weld opera roc arloesol Elfed Saunders Jones yn cael ei pherfformio (ish) yn fyw ar lwyfan, wrth i gast y sioe ailymgynnull ar gyfer darlleniad arbennig

Bydd band byw yn ymuno â'r cast i berfformio caneuon y sioe dan arweiniad y dyn ei hun, Mr Elfed Saunders Jones, a fydd yn ein tywys ar daith i Waelod yr Enfys, wedi'i haddasu'n arbennig ar gyfer Eisteddfod Wrecsam. Bydd Elfed a'i griw yn mynd â ni yn ôl i ddiwedd y 1960au, lle mae myfyrwyr Coleg Technegol Sir Ddinbych wedi bod yn diflannu, a neb yn gwybod pam.

Dyma sy'n ysgogi'r newyddiadurwr ifanc, Geraint Jenkins, i berswadio ei olygydd i'w adael i fynd ar drywydd y stori a darganfod beth sy'n digwydd i'r myfyrwyr. Wrth i Geraint dyrchu'n ddyfnach ac yn ddyfnach am y gwir, buan y daw i ddarganfod tipyn mwy na'r oedd wedi bwriadu…

Instagram