Caffi Maes B
Set gan un o fandiau blaenaf Cymru, sydd wrthi'n gweithio ar eu halbwm nesaf, yn dilyn rhyddhau'r sengl gyntaf o'r albwm, 'Y Gyllell Lemon' ym mis Mawrth
Mae Candelas wedi perfformio ar bob llwyfan yng Nghymru bellach ac wrthi yn gweithio ar eu pedwerydd albwm.
Dywed Osian mai dyma'r albwm mwyaf chwareus hyd yma gan fod yr amser yn y stiwdio (Stiwdio Sain, Llandwrog) wedi bod yn haws nag erioed.
Rhyddhawyd fideo trawiadol iawn i gyd fynd â'r sengl 'Y Gyllell Lemon' yn gynharach eleni, a bwriad Dafydd Owain, cyfarwyddwr y fideo, oedd creu fideo mor hardd â phosib a mynd yn erbyn y stereoteip o beth fyddai ffans Candelas yn ei ddisgwyl mewn fideo.