P1045456
Llwyfan y Maes

Mae'r Cledrau'n gigio ledled Cymru yn ddi-dor ers iddyn nhw ffurfio yn Ysgol y Berwyn, y Bala, nôl yn 2012

Rhyddhawyd eu EP cyntaf 'Un Ar Ôl y Llall' yn 2015, yna eu halbwm gyntaf 'Peiriant Ateb' fis Rhagfyr 2017.

Daliodd yr albwm sylw’r byd cerddoriaeth Gymraeg, wrth i’r cynigion gigs lifo mewn, gan olygu dwy flynedd hurt o brysur yn 2018 a 2019 yn perfformio gigs ledled Cymru.

Aeth y band yn ôl i ‘sgwennu ar ddechrau 2020, ac yna manteisio ar dawelwch y cyfnod clo er mwyn gorffen a rhyddhau eu hail albwm, 'Cashews Blasus', fis Gorffennaf 2021.
Gyda gwerth dwy albwm o ganeuon adnabyddus, golygodd hyn fod Y Cledrau wedi headlinio llwyfannau mwyaf Cymru: Llwyfan y Maes, Maes B, Clwb Ifor Bach, Tafwyl, yn ogystal â chael sylw cyson ar y radio a’r cyfryngau cymdeithasol.

Rhyddhawyd 'Os Oes Cymaint o Drwbwl...' fel sengl ar albwm dathliad pen-blwydd eu label, I Ka Ching yn 10 oed yn 2022.

Aeth y band ati i recordio’r sengl 'Fel Hyn Fel Arfer' fis Tachwedd 2022 i ddathlu 10 mlynedd ers gig cyntaf y band yn nhafarn y Plas Coch, Y Bala, a rhyddhawyd hi yn 2023 gyda fideo gan Lŵp i gyd-fynd.

Instagram Facebook Tiktok