Maes D
Golwg hwyliog gan Aled Lewis Evans ar eisteddfodau cenedlaethol Wrecsam y gorffennol gydag ambell stori ddifyr am ddigwyddiadau lliwgar, yn sesiwn goffa Bobi Jones
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi'i chynnal yn Wrecsam nifer o weithiau - 1876, 1888, 1912, 1933, 1945 (yn y Rhos), 1961 (ger y Rhos), 1977, a 2011. Bydd Aled yn rhannu storfa o straeon diddorol am bob un ohonyn nhw, gyda chyfle i wneud sylw, gofyn cwestiwn neu rannu atgof yn ystod y sesiwn