Encore
Perfformiad acwstig gan y grŵp lleisiol o Ynys Môn sy'n gyn-enillwyr Cân i Gymru
Ffurfiwyd Cordia nôl yn 2015 er mwyn cystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Yn 2016 enillodd y band gystadleuaeth Cân i Gymru a'r Ŵyl Ban Geltaidd gyda'u cân wreiddiol 'Dim Ond Un'. Yn dilyn eu llwyddiant fe ryddhawyd EP, 'Tu ôl i'r Llun'.
Ail-ffurfiodd Cordia y llynedd yn dilyn seibiant. Dyma gyfle iddyn nhw arddangos eu halbwm newydd a ryddhawyd ddechrau'r haf, 'Adfyw'. Mae'n adlewyrchu'u profiadau ers iddyn nhw ganu gyda'i gilydd ddiwethaf.
Cynhyrchwyd yr albwm yn Stiwdio Tyn Rhos, Engedi gyda'r cynhyrchydd, Rhys Jones