Artist Press Image
Llwyfan y Maes

Cantores-gyfansoddwr o Gaerdydd sy'n siarad Cymraeg, gyda tharddiad Gwyddelig-Jamaicaidd. Daw ei dylanwadau cerddorol o gartref a oedd yn llawn sŵn finyl jazz a nosweithiau Gwener yn bloeddio miwsig y ffilmiau

Yn 2024, rhyddhaodd Lily ei EP cyntaf, 'Little Old Me' — casgliad o ganeuon o'r galon am dyfu i fyny. Derbyniodd yr EP gefnogaeth gan BBC Radio Wales, Radio Cymru, ac 1Xtra, ac mae Lily’n awyddus i rannu ei cherddoriaeth ledled Cymru.

Mae Lily’n perfformio gyda band o gerddorion Du a Brown hynod dalentog — presenoldeb sydd dal i fod yn rhy brin ar lawer o lwyfannau gwyliau Cymreig — ac eleni, mae hi’n falch o ddod â dathliad llawen i’w set yn yr Eisteddfod.

Mae uchafbwyntiau ei gyrfa’n cynnwys perfformio ar ‘Tony Visconti’s Unsigned Heroes’ ar Sky Arts yn Union Chapel, ochr yn ochr â Bob Geldof, Imelda May, a Stewart Copeland. Yn 2022, cynrychiolodd Gymru yn y Nobel Peace Centre, a chyfansoddodd a pherfformiodd gân i ail-agoriad y Senedd ar ôl y pandemig.

Y tu hwnt i gerddoriaeth, mae Lily hefyd yn actores. Serennodd yn y ffilm 'Y Sŵn', a enillodd BAFTA yn 2022, ac arweiniodd y ddrama deledu 'Y Goleudy', a enwebwyd am BAFTA

Instagram Facebook