Llwyfan y Maes

Côr lleol o tua 40 o leisiau cymysg, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ar lwyfannau cystadleuol ac mewn cyngherddau

Wedi’i sefydlu ym 1990 gan yr arweinydd enwog, Jean Stanley Jones MBE, mae'r côr yn adnabyddus am eu sain unigryw, techneg ragorol, ehangder eu repertoire, ac am hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Maen nhw wedi ennill gwobrau mewn nifer o gystadlaethau arobryn, gan gynnwys y gamp lawn yng Ngŵyl Gorawl Ryngwladol Bangor (Gogledd Iwerddon), gan ennill pedair gwobr gyntaf a gwobr fawreddog Côr y Corau.

Gartref mae’r côr wedi ennill nifer o wobrau yn yr Eisteddfod a Gŵyl Aberteifi, ac wedi ennill cystadleuaeth gymysg Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddwywaith a nhw oedd y côr Cymraeg cyntaf i ennill cystadleuaeth Côr y Byd.

Facebook