Y Stiwt
Encore

English translation is available

Dewch draw i gofio’r gorffennol, mwynhau doniau’r presennol a chyfrannu at ddathlu dyfodol adeilad eiconig y Stiwt, sy’n gadarnle i’r Gymraeg ar y ffin ers canrif, gyda Stifyn Parri, Dyfed Thomas, Dylan Davies, Caitlin Drake, Mark Lewis Jones, Daniel Lloyd ac eraill

Yn 2026 bydd Plas Mwynwyr y Rhos - Y Stiwt - yn dathlu 100 mlynedd fel calon gelfyddydol, ddiwylliannol a gwleidyddol cymuned unigryw Rhosllannerchrugog.

Adeiladwyd yr adeilad arbennig hwn gyda chyfraniadau'r glowyr o’u cyflogau prin yn y 1920au, ac ail-agorwyd ar ei newydd wedd trwy ymgyrch gan y gymuned ym 1997. Mae’n ganolfan sy’n llwyfannu perfformiadau theatrig a cherddorol o Gymru gyfan a thu hwnt, yn ogystal â chroesawu llu o ddigwyddiadau cymunedol