Llwyfan y Maes
Waio! Waio! Ydyn, mae'r hogiau'n ôl! Anweledig yw'r enw, ond maen nhw'n weladwy a chlywadwy iawn ar y llwyfan gyda thros 10 aelod, caneuon bachog ac awyrgylch fywiog
Roedd Anweledig yn boblogaidd iawn yn ystod y 90au a'r 00au ac maen nhw wedi aros yn driw i'w gwreiddiau ym Mro Ffestiniog.
Be well i orffen nos Wener ar lwyfan Maes y Steddfod na sŵn roc, ffwnc a reggae ucheldiroedd Cymru. Peidiwch â'u methu!