IMG 1313
Llwyfan y Maes

Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, sef 25 o ferched bywiog sy’n caru dysgu a chanu yn Gymraeg gyda'u medlis yn cynnwys Abba, Elton John a Stevie Wonder

Mae’r côr wedi cael y fraint o berfformio yn Venue Cymru Llandudno, y Ganolfan Mileniwm Caerdydd, Prifeglwys Caer, Neuadd Erddig, Saith Seren a Focus Wales. Maen nhw wrth eu boddau'n perfformio efo Côr Meibion Rhos a Brymbo, yn codi arian ar gyfer elusennau Yn 2024 llwyddon nhw i ennill y wobr Gymraeg yn y Gwobrau Busnes a Chymuned Wrecsam.