Sesiwn bywiog am farwolaeth! Trafodaeth a chlipiau o deithiau Kristoffer Hughes o gwmpas y byd ar gyfer y gyfres, 'Marw gyda Kris'
Wedi llwyddiant rhyfeddol y gyfres liwgar, mae pobl wedi bod yn holi am fwy o gyfle i weld a thrafod profiadau Kris ar draws y byd, felly dyma gyfle unigryw i wneud hynny.
Bydd Kristoffer Hughes, cyflwynydd y gyfres, a Gwion Hallam, y cynhyrchydd-gyfarwyddwr, yn rhannu clipiau a straeon o'u teithiau i ben draw'r bedd.
O Fecsico i Indonesia, ac o India i ogledd America, dyma gyfle i glywed am yr heriau o drio ffilmio pwnc a seremonïau ysgytwol a sensitif yn rhai o leoliadau pell y byd.
Amlosgi awyr agored yn Varanasi, India; defod glanhau'r cyrff ar ynys Sulawesi, Indonesia, a phrofi compostio dynol am y tro cyntaf yn Seattle.
I Kris, Gwion a'r criw ffilmio, dyma deithiau sydd wedi newid eu bywydau. Profiadau sydd wedi newid y ffyrdd y maen nhw'n meddwl am farwolaeth, a'r bywyd yma