Encore

Seremoni i wobrwyo enillwyr cystadlaethau cyfansoddi cerddoriaeth yr Eisteddfod


Unawd addas i briodas

Unawd yn addas i’w chanu mewn priodas ar unrhyw eiriau Cymraeg. Cyfrifoldeb y cystadleuydd fydd sicrhau hawlfraint y geiriau

Gwobr: £200 (Einir Jones, Gan ‘ Y Genod’ er cof am Lynda Roberts, Stryt Osborne, Rhosllannerchrugog)

Beirniad: Nia Wyn Jones


Darn i gôr lleisiau T|B neu S|A

Darn i Gôr lleisiau T|B neu S|A wedi’i ysbrydoli neu’n seiliedig ar eiriau gan ID Hooson, hyd at 4 munud. Cyfrifoldeb y cyfansoddwr yw sicrhau'r hawl i ddefnyddio'r geiriau

Gwobr: £200 (Wyrion a wyresau Bob a Maggie Evans, Er cof am Nain a Taid, Stryt Isa, Penycae a holl aelodau'r teulu a fu'n canu gyda Chôr y Rho, gan wyrion ac wyresau Bob a Maggie Evans)

Beirniad: Robat Arwyn


Cyfansoddi i organ neu biano

Cyfansoddiad i organ neu biano yn seiliedig ar donau emynau Caradog Roberts, hyd at 4 munud

Gwobr: £200

Beirniad: Guto Puw


Darn ar gyfer ensemble offerynnol

Darn ar gyfer ensemble offerynnol cymysg ar gyfer oedran ysgol uwchradd, hyd at 4 munud

Gwobr: £200

Beirniad: Owain Llwyd Brown