Theatr Stryd a Dawns
Theatr ddawns gomedi wedi'i hysbrydoli gan ffilmiau enwog y Gorllewin Gwyllt, traciau sain Hollywood a chowbois a merched enwog mewn hanes
Mae'r merched gwallgof yma'n rhoi rhediad i unrhyw gowboi am ei arian! Mewn arena Rodeo sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion mae'r merched yn marchogaeth ceffylau, cario dryll a chwipio'r chwip a nhw sy'n rheoli!
Yeeeeehaa! Wedi'i gyflwyno gan Kitsch n Sync Collective gyda chaneuon gwreiddiol a thrac sain gan Lo-fi Jones