Cymdeithasau

Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, sy'n amlinellu ei gweledigaeth ac yn cyflwyno ei gobeithion am dymor cyntaf y Senedd ar ei newydd wedd

Yn dilyn cyhoeddi cynllun strategol pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg dyma gyfle i drafod ymhellach yr amcanion a’r blaenoriaethau fydd yn llywio gwaith swyddfa’r Comisiynydd am y blynyddoedd nesaf. Gydag etholiad senedd Cymru ar y gweill bydd yn gyfle yn ogystal i glywed dyheadau’r Comisiynydd o ran y Gymraeg gan y pleidiau gwleidyddol.

O dan gadeiryddiaeth y darlledwr Iwan Griffiths bydd trafodaeth banel yn dilyn yn cynnwys Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, a chynrychiolwyr sefydliadau cyhoeddus.