Encore
Orig yng nghwmni Eifion Lloyd Jones a rhai o gyn-ddisgyblion a chydweithwyr y diweddar Gilmor Griffiths, yn wreiddiol o Ponciau ger Rhos: addysgwr, arweinydd a chyfansoddwr toreithiog
Ysbrydolodd genedlaethau o ddisgyblion tra’n athro cerdd yn Ysgol Glan Clwyd. Bydd cyfle i rannu atgofion amdano a gwrando ar ddatganiadau cerddorol byw a recordiadau o’i gyfansoddiadau, sydd erbyn hyn yn cael eu hystyried yn drysor cenedl.