Eve Goodman
Tŷ Gwerin

Mae caneuon Eve Goodman yn delynegol a hudolus ac yn dangos dylanwad artistiaid fel Joni Mitchell, Nick Drake ac Adrienne Lenker

Fe’i hysbrydolir gan natur a’r byd mwy-na-dynol ac mae’i chaneuon yn cysylltu’n ddwfn â’n tirweddau mewnol ac allanol. Mae'n ysgrifennu a pherfformio yn y Gymraeg a Saesneg. Daeth cerddoriaeth yn ffordd o roi llais i'w thirwedd fewnol, gan ganiatáu iddi fynegi ei hun mewn ffordd fyfyriol a gonest. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Eve wedi rhyddhau EP ac wedi ymddangos ar albwm newydd Bryn Terfel 'Sea Songs' gyda deuawdau yn y Gymraeg a'r Llydaweg. Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, casgliad o ganeuon am alar, ym mis Tachwedd 2024

Youtube Instagram Facebook