Lewis, Finch, Rimes yw'r canwr-cyfansoddwr, Al Lewis, y delynores amryddawn ac arloesol, Catrin Finch, a'r cerddor, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd, Patrick Rimes, gyda'i gilydd am y tro cyntaf yn y Tŷ Gwerin
Mae'r canwr/cyfansoddwr Al Lewis wedi perfformio mewn digwyddiadau eiconig rhyngwladol fel Gŵyl Glastonbury, Gŵyl Gerdd Americana Nashville, Gŵyl Lorient a Celtic Connections. Gafodd ei sengl a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas, ‘A Child’s Christmas in Wales’ ei hychwanegu at restr chwarae BBC Radio 2 ac ers hynny wedi cael ei recordio gan artistiaid fel Gary Barlow. Perfformiwyd ei waith cysyniadol corawl-gwerin 'Te yn y Grug' fel sioe gerdd am y tro cyntaf yn Eisteddfod 2019.
Catrin Finch yw telynores glasurol fwyaf hyfedr a dawnus ei chenhedlaeth. Fel artist amryddawn, di-ofn ac arloesol, mae'n parhau i archwilio a gwthio ffiniau ei chelf gyda chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig gydag artistiaid fel meistr y kora, Seckou Keita (Senegal) - enillodd y ddau'r wobr am y Grŵp Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019 - ac yn fwyaf diweddar y feiolinydd clasurol o Iwerddon, Aoife Ní Bhriain.
Cerddor, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd yw Patrick Rimes. Fel un o sylfaenwyr Calan a VRï, mae wedi teithio’n rhyngwladol, wedi rhyddhau sawl albwm stiwdio clodwiw a derbyniodd bedair gwobr yng Ngwobrau Gwerin Cymru. Mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig ac mewn lleoliadau sy’n cynnwys Neuadd Frenhinol Albert a Neuadd Dewi Sant