Tŷ Gwerin
Sefydlwyd y gystadleuaeth hon i gydnabod cyfraniad y cerddor a'r cyfansoddwr Alun Sbardun Huws ac ar yr un pryd hyrwyddo ac annog cyfansoddwyr y dyfodol. Edrychwn ymlaen i weld pwy fydd yn derbyn y Tlws yn Wrecsam
Roedd Alun Sbardun Huws yn un o sylfaenwyr y grŵp Y Tebot Piws yn y 1960au a'r 70au cynnar, ac fe aeth ymlaen i gyfansoddi rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru fel 'Strydoedd Aberstalwm'. Roedd ei alawon a’i eiriau yn wreiddiol ac yn afaelgar.
Roedd yn caru cerddoriaeth ac wrth ei fodd yn gweld talentau newydd yn dod i’r amlwg.
Bydd Tlws Sbardun yn ddeg oed yn 2026. Mae’r wobr hael o £500 yn rhoi statws arbennig i’r gystadleuaeth.