Cabarela Poster v4
Y Babell Lên

Yn 2026, mae Strumpan wedi llwyddo i ormesu holl ferched Cymru a’u caethiwo yn Wyrcws y Wain. Eu hunig bwrpas? Mynd ar eu gliniau i brintio posteri propaganda’r unben i’w gwasgaru dros Gymru gyfan. Does dim hawliau, dim gobaith a dim pleser… nes i Cabarela danio chwyldro gyda help huns y gorffennol…