Holi'r pianydd rhyngwladol, Llŷr Williams, am ei ddylanwadau cynnar a'i fagwraeth gerddorol yn Rhosllannerchrugog
Datganiad o weithiau cyfoes Cymreig ar gyfer y piano. Bydd y cyngerdd yn cynnwys y perfformiad cyhoeddus cyntaf o bedwar gwaith gan Brian Hughes yn ogystal â'r darn 'The time of the singing birds' gan Rhian Samuel a gweithiau gan Richard Elfyn Jones a Geraint Lewis. Mae Llŷr Williams yn un o gerddorion amlycaf Cymru ac wedi cynnal cyngherddau yn rhai o neuaddau cyngerdd mwya'r byd gan gynnwys Carnegie Hall yn Efrog Newydd, y Concertgebouw yn Amsterdam a'r Conservatoire ym Moscow. Yn adnabyddus am ei ddehongliadau o weithiau Beethoven, Chopin, Schumann a Brahms bydd y digwyddiad yma'n gyfle iddo ddangos ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth glasurol cyfoes