Llwyfan y Maes
Mae rhywbeth ar droed. Y cnydau’n pydru a’r tywydd yn troi. Mae sibrwd ym mrigau’r coed. Ble wyt ti Ceridwen? Cyfle i brofi rhan o’r sioe sydd newydd fod ar daith ac sy’n wledd i’r synhwyrau
Does neb wedi gweld Ceridwen ers blynyddoedd. Mae’r tylwyth teg a’r gwrachod angen atebion! Wedi eu gwahanu ers i Ceridwen ddiflannu oes modd iddyn nhw gydweithio i ganfod y gwir?
Gyda’r cyfarwydd yn anghyfarwydd a’r anghyfarwydd yn denu, dewch i brofi antur llawn cyffro ymysg brigau’r coed sy'n brofiad theatrig unigryw gyda cherddoriaeth fyw.
Dramodydd: Lowri Morgan
Cyfansoddwr: Lynwen Hâf Roberts
Cyfarwyddwr: Alice Eklund