Y Ddarlith Lenyddol gyda Grahame Davies, sy'n cofio'r bardd Bryan Martin Davies a oedd yn athro ysbrydoledig arno yng Ngholeg Chweched Dosbarth Iâl
Y flwyddyn 1980 oedd hi, ac roedd Grahame Davies o bentref Coedpoeth wedi gadael byd addysg Gymraeg a chychwyn yn y chweched dosbarth yn Wrecsam, â'i fryd ar ymuno â'r Fyddin Brydeinig.
Ond roedd ar drothwy trobwynt a'i harweiniodd mewn cyfeiriad tra gwahanol. Ei athro cofrestru oedd y bardd Bryan Martin Davies, ac oherwydd bod ganddynt y Gymraeg yn gyffredin, buan iawn y daeth Grahame yn ddisgybl barddol i'r llenor o Frynaman.
Yn awr, ddegawd wedi marwolaeth Bryan Martin yn 82 oed yn 2015, y mae Grahame yn cyflwyno gwerthfawrogiad o yrfa ddisglair ei athro barddol, un o feibion mabwysiedig Bro Maelor, ac un a adawodd ei ôl ar farddoniaeth Gymraeg ac ar fywydau'r sawl a ddaeth o dan ei ddylanwad