Poster for the Wrexham 2025 National Eisteddfod promoting a new show titled "Y Stand".

Mae ’na bob math o bobl ar y Stand, a ffawd wedi gosod eu tocynnau tymor nesaf at ei gilydd. Dyma deulu sydd ddim yn perthyn, yn dathlu ac yn torri calonnau efo’i gilydd, yn dibynnu ar y sgôr y diwrnod hwnnw. Dro arall, mae’r gagendor rhwng eu bywydau’n teimlo’n enfawr.

Dyma ddilyn straeon teulu'r Stand, a hanes Wrecsam a’i hysbryd hi yn ysbrydoliaeth i’r stori obeithiol yma.

Bydd y Pafiliwn yn cael ei drawsnewid yn stadiwm bêl-droed, yn fyw gyda sain, lliw ac egni’r dorf. Côr yr Eisteddfod yw calon a chanolbwynt y sioe, yn gymuned yn sefyll gyda’i gilydd, yn dathlu’r gorau a’r gwaethaf drwy gân.

Mae’r stori’n cael ei hadrodd drwy lygaid y côr a’n prif gymeriadau.  Mae Clem (Dyfed Thomas) yn actor sy’n gyn-chwaraewr Wrecsam, ac sy’n dychwelyd i’r llwyfan gyda’i hanes personol a chariad dwfn at y Clwb, a Grace (Cadi Glwys), yn ferch ifanc 14 oed sy’n breuddwydio am gael chwarae pêl droed.

Ymunwch â ni ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam nos Sadwrn 2 Awst a nos Lun 4 Awst am berfformiad twymgalon sy’n sicr o apelio at y gynulleidfa ehangaf bosibl. Dwy noson. Un stadiwm. Un stori o’r galon.

Gwisgwch goch a gwyn. Dewch â’ch llais. Dewch â’ch calon. Dewch i brofi 'Y Stand'.

Tocynnau ar werth dydd Llun 16 Mehefin, www.eisteddfod.cymru.

Bydd tocynnau perfformiad nos Sadwrn ar werth am 12:00 a thocynnau nos Lun yn mynd ar werth am 16:00. 

Geiriau: Manon Steffan Ros | Cerddoriaeth: Osian Williams | Cyfarwyddwr: Siwan Llynor | Côr-feistri: Aled Phillips, Pete Davies a Dafydd Glyn | Cyfeilyddion: Lisa Harrison a Richard Jones | Perfformwyr: Côr yr Eisteddfod, Dyfed Thomas, Cadi Glwys, Lleuwen Steffan, Rhodri Trefor a Betsan Ceiriog