Cymdeithasau
Dr Jenny Day a Dr Gruffudd Antur o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru sy’n trafod cyfraniad y bardd canoloesol Gutun Owain at ddiwylliant llenyddol ardal Wrecsam a’r gogledd-ddwyrain ehangach, ac at ddatblygiad diweddarach y Dadeni Dysg yng Nghymru.
Dyma lansio’r prosiect newydd, ‘Cymro cyntaf y Dadeni Dysg?: Gutun Owain a diwylliant ysgolheigaidd y gogledd-ddwyrain yn yr Oesoedd Canol diweddar’, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI