Y Stiwdio

Disgwylir i'r cystadleuwyr gyfeilio i ddatgeinydd Cerdd Dant ac i fod yn barod i drawsgyweirio'r ceinciau gosodedig canlynol hyd at dôn yn uwch a thôn yn is

  • 'Dyfrdwy', Ceinwen Roberts. Allwedd y Tannau 46 [Cymdeithas Cerdd Dant Cymru]
  • 'Breuddwyd Rhysyn Bach' o gyfrol Alawon fy Ngwlad, gol. Nicholas Bennett [Cymdeithas Cerdd Dant Cymru]

Anfonir copi o'r geiriau at sylw'r cystadleuwyr cyn yr Eisteddfod

Gwobrau:

  • Bydd yr enillydd yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y cwrs cyfeilio blynyddol dan nawdd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru a £150 (Sioned Bowen, Telynores Tafwys, Er cof am fy rhieni sef Sioned Penllyn a dderbyniodd Fedal Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy,1989 a'i gŵr, ap Gerallt, y Parch WE Jones)
  • £120
  • £90

Beirniad: Elain Wyn

Cyfeilydd: Cai Fôn