Yn dilyn galwad agored yn ystod tymor yr hydref 2024, fe ddewisodd panel o feirniaid dri cherddor i weithio gyda'r mentor gyfansoddwr, Pwyll ap Siôn trwy gydol hanner cyntaf 2025 i gyfansoddi ar gyfer ensemble offerynnol. Cyflwynir y tri chyfanwaith am y tro cyntaf ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod y seremoni a dyfernir y fedal i’r cyfansoddwr buddugol.
I gydnabod canmlwyddiant geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, thema Medal y Cyfansoddwyr eleni yw ‘Cymru Fydd’ a thasg y cyfansoddwyr oedd ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig, ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’.
Mae'r tri cherddor a gyrhaeddodd y rhestr fer, sef Jon Guy, Sarah Lianne Lewis ac Owain Gruffudd Roberts wedi cydweithio a datblygu eu cyfansoddiadau gyda thri chwaraewr llinynnol hynod amryddawn dan ofal Sinfonia Cymru - Simmy Singh (ffidil), David Shaw (ffidil/fiola) a Garwyn Linnell (sielo) mewn cyfres o weithdai.
Panel beirniaid: Richard Baker, Lleuwen Steffan a Grahame Park
Gwobr: Medal y Cyfansoddwr (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru) a £750
Arweinydd y seremoni: Siân Lloyd
Ffanfferwyr: Ensemble Pres Dewi Griffiths
Cynhelir Medal y Cyfansoddwr mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd
Medal y Cyfansoddwr
i gyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth
Yn dilyn galwad agored yn ystod tymor yr Hydref 2024, bydd y panel beirniaid yn dewis tri cherddor neu grëwr cerddoriaeth i weithio gyda mentor gyfansoddwyr trwy gydol hanner cyntaf 2025 i gyfansoddi ar gyfer ensemble offerynnol. Bydd y tri chyfanwaith yn cael eu perfformio ar faes yr Eisteddfod, a dyfernir y tlws i’r cyfansoddwr/wraig b/fuddugol. Os yn briodol, ystyrir cyhoeddi’r gwaith gan Tŷ Cerdd.
Thema Medal y Cyfansoddwyr eleni yw ‘Cymru Fydd’. I gydnabod canmlwyddiant geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, rydym am i artistiaid gyflwyno syniadau sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig: ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’.
Cliciwch yma i gwblhau ffurflen gais ac i ddarganfod mwy am y gystadleuaeth: Medal y Cyfansoddwr
Gwobr: Medal yn rhoddedig gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru (yn rhoddedig gan Yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru) a £750