Close-up of colorful fabric bunting flags hanging on a string, with a blurred background showing more bunting flags in various colours.

Ar gyfer cam nesaf ein taith, rydym angen unigolyn a all ddarparu arweinyddiaeth ysbrydoledig a medrus ar gyfer yr Eisteddfod, gan ddatblygu a hyrwyddo ei huchelgeisiau strategol, a sicrhau bod yr Elusen yn cael ei rheoli’n gadarn ac effeithiol.

Fel Llywydd y Llys byddwch yn cadeirio cyfarfod blynyddol y Llys ac yn sicrhau bod gan Aelodau’r Elusen lais clir yng ngwaith a chyfeiriad strategol yr Eisteddfod. Bydd yn ofynnol i chi fedru cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a bydd disgwyl i chi fod â phrofiad o gael eich cyfweld ar radio a theledu yn y Gymraeg a Saesneg. 

Fel Cadeirydd y Bwrdd (Ymddiriedolwyr) byddwch yn cadeirio cyfarfodydd rheolaidd y Bwrdd Rheoli ac yn gweithio yn effeithiol gyda’r Ymddiriedolwyr, y Tîm Gweithredol ac amrywiol bartneriaid i'n helpu i wireddu ein gweledigaeth strategol. Byddwch hefyd yn cydweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr i ddatblygu a chynnal perthnasau strategol, hwyluso llywodraethu effeithiol, a chynllunio strategaeth clir i’r dyfodol.

Byddwch hefyd yn teimlo’n hyderus wrth siarad yn gyhoeddus, boed hynny yn yr Eisteddfod, neu wrth gynrychioli’r sefydliad mewn gwahanol sefyllfaoedd swyddogol drwy gydol y flwyddyn. 

Mae’r rôl yn ddi-dal ond telir cyfraniad tuag at gostau teithio a llety. Mae’r penodiad am gyfnod o hyd at dair blynedd.

Rydym yn annog a chroesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a chymuned. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fenywod ac unigolion o blith cymunedau du a lleiafrifol ethnig a grwpiau eraill a dangynrychiolir. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:12:00 (hanner dydd), ddydd Gwener, 18 Gorffennaf, 2025. 

Am drafodaeth anffurfiol ac i ymgeisio, cysylltwch â Betsan Moses, e-bost - betsan@eisteddfod.cymru. Wrth wneud cais, dylech nodi ‘Cais Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Llywydd y Llys’ yn y llinell pwnc, ac atodwch gopi o'ch CV a llythyr eglurhaol. 

Caiff pob cais ei gydnabod.

Manylion rôl Llywydd y Llys a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli Lawrlwytho