6 Awst, 13:45 Pentref Plant Dewch i ganu a chael hwyl gyda Hywel y Ffarmwr, seren rhaglen deledu 'Fferm Fach'. Bydd cyfle i weld pennod o 'Fferm Fach', cael sbort wrth gyd-ganu gyda Hywel a'i acordion yn ogystal â llond trol o ffeithiau difyr am fwyd y fferm.