Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Trafodaeth fywiog gydag arloeswyr cymunedol a rhanddeiliaid o ddau o Safleoedd Treftadaeth y Byd Gogledd Cymru – Dyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Llangollen a Tirwedd Llechi De Orllewin Cymru.

Gyda’n gilydd byddwn yn edrych yn fanwl ar yr heriau a’r cyfleoedd yr ydym yn eu wynebu yn sgil ein gorffennol diwydiannol a’r statws UNESCO mawreddog, gan drafod mentrau sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau, yn ein treftadaeth a’n lleoedd yn y ddau safle.

Byddwn hefyd yn siarad am sut yr ydym yn gweithio gyda’n cymunedau ar sut i ddefnyddio eu gorffennol i gefnogi eu dyfodol.